Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
21 Mai 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13911
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeirydd y pwyllgor a ganlyn yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur)
Enwebwyd Mike Hedges gan Jack Sargeant. Eiliodd Hefin David yr enwebiad.
Enwebwyd Alun Davies gan Jenny Rathbone. Eiliodd Mark Drakeford yr enwebiad.
Gan fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Canlyniadau
Am 17.26, cyhoeddodd y Llywydd ganlyniad y bleidlais gyfrinachol ar gyfer ethol cadeirydd pwyllgor:
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur):
|
Alun Davies |
Mike Hedges |
Ymatal |
Difethwyd |
Cyfanswm
|
|
26 |
27 |
1 |
1 |
55 |
Datganodd y Llywydd bod Mike Hedges wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.32
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.23
Dechreuodd yr eitem am 15.57
Gohiriwyd yr eitem hon tan 4 Mehefin.
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Dechreuodd yr eitem am 17.11
NDM8586 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2024.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.27
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 22 Mai 2024